Dyddiad | Date: 18 Hydref 2021
Pwnc | Subject: Y Bil Etholiadau
Annwyl Weinidog Gwladol dros Godi’r Gwastad a Chydraddoldeb,
Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i lythyr dyddiedig 5 Gorffennaf gan y cyn Weinidog Gwladol dros y Cyfansoddiad a Datganoli (sef y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Bil Etholiadau ar y pryd) yn gofyn am sylwadau ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU.[1]
Fel y nodwyd yn y Nodiadau Esboniadol ar y Bil Etholiadau, mae nifer o ddarpariaethau yn y Bil yn gysylltiedig â materion sydd wedi’u datganoli i’r Senedd. Nid yw’r Senedd eto wedi trafod a ddylid cydsynio i ddarpariaethau o’r fath, ond caiff Senedd y DU wybod am ei phenderfyniad yn y ffordd arferol, ac nid yw’r ohebiaeth hon yn achub y blaen ar y drafodaeth honno.
Serch penderfyniad ehangach y Senedd ar gydsynio i’r Bil, mae Pwyllgor y Llywydd o’r farn y dylid diwygio’r Bil Etholiadau i’w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â Phwyllgor y Llywydd os yw’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Datganiadau Strategaeth a Pholisi sy’n berthnasol i’r modd y mae’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei swyddogaethau datganoledig yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau cydraddoldeb o ran y ffordd yr ymdrinnir â Phwyllgor y Llywydd a’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â Phwyllgor y Llefarydd.
Yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mater i’r Senedd yw trafod nodau ac amcanion y Comisiwn Etholiadol ar gyfer arfer swyddogaethau’r Comisiwn mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig Cymru[2], drwy waith Pwyllgor y Llywydd wrth drafod y cynlluniau pum mlynedd a gyflwynir iddo gan y Comisiwn Etholiadol. Os nad yw Pwyllgor y Llywydd yn fodlon bod cynllun pum mlynedd yn gyson â’r camau a gymerir gan y Comisiwn i arfer ei swyddogaethau yn economaidd, effeithlon ac effeithiol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru, rhaid i Bwyllgor y Llywydd addasu’r cynllun fel sy’n briodol at ddibenion sicrhau’r cysondeb hwnnw.
Mae’r Bil Etholiadau fel y’i drafftiwyd yn cynnwys darpariaethau i ganiatáu i Lywodraeth y DU gyhoeddi Datganiadau Strategaeth a Pholisi a all fod yn berthnasol i’r modd y mae’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei swyddogaethau datganoledig yng Nghymru.
Ymddengys bod y pŵer hwn yn arwain at risg o wrthdaro â chyfrifoldebau Pwyllgor y Llywydd mewn perthynas â chynlluniau pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol. Felly, byddai’n briodol i adran 4C(2) o’r Bil gael ei diwygio i’w gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Phwyllgor y Llywydd, yn hytrach na Gweinidogion Cymru, cyn cyhoeddi unrhyw ddatganiadau o’r fath.
Byddai cynnwys darpariaeth y dylid ymgynghori â Phwyllgor y Llywydd yn sicrhau cydraddoldeb o ran y ffordd yr ymdrinnir â’r Pwyllgor hwn a’r ffordd yr ymdrinnir â Phwyllgor Llefarydd Tŷ’r Cyffredin a’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, ac yn adlewyrchu atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol i Bwyllgor y Llywydd.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb. Anfonwyd copi o’r llythyr hwn at:
- Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd;
- Cadeirydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd;
- Cwnsler Cyffredinol Cymru;
- y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru; a
- Phwyllgor Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Yn gywir,
David Rees AS
Cadeirydd Pwyllgor y Llywydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.
Copi at:
Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Syr Lindsay Hoyle AS, Llefarydd, Pwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol
[1] Cafodd y llythyr gwreiddiol ei gyfeirio at Elin Jones AS, Llywydd y Senedd. O gofio bod y Comisiwn Etholiadol yn atebol i Bwyllgor y Llywydd, anfonwyd llythyr y Gweinidog ymlaen at y Pwyllgor i’w ystyried.
[2]Cyfieithiad o baragraff 16B(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000